Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
1 Mai 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13906
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 8 gan y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 6 a 7 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn ymateb i'r newyddion bod dros 100 o swyddi gyda chwmni Everest mewn perygl o'u colli yn Rhondda Cynon Taf?
Dechreuodd yr eitem am 15.21
Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am - Y sefydliad Mothers Matter, sy’n canolbwyntio ei waith ar gefnogi a gwella iechyd meddwl mamau a’u teuluoedd trwy ystod o wasanaethau, ac Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau (29 Ebrill – 5 Mai).
Dechreuodd yr eitem am 15.23
NDM8559 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2024.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8563 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adolygiad Cass a gomisiynwyd gan GIG Lloegr i wneud argymhellion ar sut i wella gwasanaethau hunaniaeth rhywedd y GIG, a dynnodd sylw at y ffaith y dylid bod yn ofalus iawn wrth ragnodi meddyginiaethau atal y glasoed a hormonau i bobl ifanc o dan 18 oed oherwydd diffyg ymchwil o ansawdd uchel i'w heffeithiau tymor hir.
2. Yn croesawu'r ffaith, oherwydd bod GIG Lloegr yn atal meddyginiaethau atal y glasoed, fod hyn wedi golygu nad oes llwybr i bobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru gael meddyginiaethau atal y glasoed.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) mabwysiadu argymhellion adolygiad Cass; a
b) sicrhau bod plant a'u rhieni yn cael eu cefnogi gyda chanllawiau synnwyr cyffredin, sy'n seiliedig ar ffeithiau.
Adolygiad Cass – Adolygiad annibynnol o wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
38 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyhoeddi adolygiad Cass.
2. Yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan y GIG yn Lloegr.
3. Yn nodi bod y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd.
4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu'r canllawiau trawsrywedd ar gyfer ysgolion, gan ystyried adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at absenoldeb gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol cynhwysfawr yng Nghymru.
Yn credu bod pob unigolyn, beth bynnag fo'u hunaniaeth rhywedd, yn haeddu parch, dealltwriaeth a mynediad at wasanaethau cymorth a gofal iechyd priodol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
41 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8563 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyhoeddi adolygiad Cass.
2. Yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan y GIG yn Lloegr.
3. Yn nodi bod y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd.
4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu'r canllawiau trawsrywedd ar gyfer ysgolion, gan ystyried adolygiad Cass a barn rhanddeiliaid.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 16.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8562 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pryder y cyhoedd ynghylch y posibilrwydd bod cod gweinidogol Llywodraeth Cymru wedi'i dorri mewn perthynas â rhoddion a dderbyniwyd gan y Prif Weinidog.
2. Yn nodi bod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 tuag at ei ymgyrch arweinyddiaeth Llafur Cymru gan y Dauson Environmental Group Limited yn dilyn benthyciad o £400,000 i'r cwmni gan Fanc Datblygu Cymru, a throseddau yn ymwneud â'r amgylchedd.
3. Yn galw ar y Prif Weinidog i benodi cynghorydd annibynnol i'r cod gweinidogol i ymchwilio i unrhyw wrthdaro buddiannau a allai fodoli mewn perthynas â'r rhodd, gan gyfeirio'n benodol at bwyntiau i a ii o baragraff 1.3 o'r cod gweinidogol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd Cod y Gweinidogion, a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru, o ddifrif.
2. Yn nodi bod y penderfyniadau a wneir gan Fanc Datblygu Cymru ynghylch benthyca a buddsoddi yn cael eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu:
a) nad yw'r Prif Weinidog wedi dychwelyd y rhodd i Dauson Environmental; a
b) nad yw'r Blaid Lafur wedi ymrwymo i ddychwelyd unrhyw rodd sydd yn weddill gan Dauson Environmental.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8562 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd Cod y Gweinidogion, a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru, o ddifrif.
2. Yn nodi bod y penderfyniadau a wneir gan Fanc Datblygu Cymru ynghylch benthyca a buddsoddi yn cael eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
24 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8561 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyfraniad o £200,000 a wnaed i'r Prif Weinidog yn ystod etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru, a'i ddatganiad ar Gofrestr Buddiannau'r Aelod.
2. Yn credu nad yw'r cyhoedd yn cymeradwyo derbyn y rhodd hon.
3. Yn cytuno y dylid gosod uchafswm blynyddol ar y rhoddion gwleidyddol y gall unrhyw Aelod unigol o'r Senedd eu derbyn gan unrhyw unigolyn neu endid.
4. Yn galw ar y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd a Chod Ymddygiad yr Aelodau a fyddai'n rhoi'r uchafswm ar waith.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
14 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod gan Aelodau o'r Senedd gyfrifoldeb i ddatgan buddiannau ar Gofrestr Buddiannau'r Aelodau a nodi datganiadau o'r fath lle bo'n berthnasol mewn cyfraniadau ysgrifenedig a llafar i Fusnes y Senedd.
2. Yn nodi ei bod yn ofynnol i Aelodau hefyd wirio bod rhoddion o £500 neu fwy wedi’u gwneud gan roddwyr a ganiateir, yn ogystal â rhoi gwybod i’r Comisiwn Etholiadol am fanylion llawn y rhoddion hynny sydd dros £2230.
3. Yn cydnabod bod pleidiau gwleidyddol, a'u cyrff llywodraethu cyfansoddol, yn gyfrifol am bennu a monitro cydymffurfedd â rheolau sy'n mynd y tu hwnt i'r gofynion cyfreithiol presennol.
4. Yn galw ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i barhau i sicrhau bod yr holl Aelodau yn bodloni'r safonau ymddygiad uchaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
24 |
1 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8561 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod gan Aelodau o'r Senedd gyfrifoldeb i ddatgan buddiannau ar Gofrestr Buddiannau'r Aelodau a nodi datganiadau o'r fath lle bo'n berthnasol mewn cyfraniadau ysgrifenedig a llafar i Fusnes y Senedd.
2. Yn nodi ei bod yn ofynnol i Aelodau hefyd wirio bod rhoddion o £500 neu fwy wedi’u gwneud gan roddwyr a ganiateir, yn ogystal â rhoi gwybod i’r Comisiwn Etholiadol am fanylion llawn y rhoddion hynny sydd dros £2230.
3. Yn cydnabod bod pleidiau gwleidyddol, a'u cyrff llywodraethu cyfansoddol, yn gyfrifol am bennu a monitro cydymffurfedd â rheolau sy'n mynd y tu hwnt i'r gofynion cyfreithiol presennol.
4. Yn galw ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i barhau i sicrhau bod yr holl Aelodau yn bodloni'r safonau ymddygiad uchaf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
25 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.11
Dechreuodd yr eitem am 18.18
NDM8560 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Gaza - ymateb Cymreig.
Cefnogwyr
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Daeth y cyfarfod i ben am 18.45
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Mai 2024